Bu i Jaime fanteisio ar gefnogaeth gan Cyfle Cymru oherwydd trafferthion yn ymwneud gyda’i iselder a gorbryder difrifol. Roedd hi’n ei gweld hi’n anodd cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau y tu allan i’w chartref ac y tu allan i’w hamgylchedd arferol. Roedd ei hyder yn andros o isel ac roedd hi’n pryderu am ei dyledion gan nad oedd hi’n derbyn y budd-daliadau cywir.
Ers ymuno gyda Cyfle Cymru, bu i Jaime gwblhau dau gwrs heb achrediad ynghylch hunanhyder a chodi hyder. Bu i’r rhain ei helpu i adnabod ffyrdd o reoli ei hunanddelwedd isel a gweld ei gallu cudd.
Un o brif dargedau Jaime oedd dod o hyd i waith, ond roedd hi’n poeni am effaith hyn ar ei budd-daliadau rhag ofn iddi fod yn wael eto a’r drafferth y bu iddi brofi yn dod o hyd i ofal plant addas ar gyfer ei mab.
Yn dilyn trafodaethau hir, bu i Jaime benderfynu holi am waith a ganiateir. Cafodd ei chais ei gymeradwyo ac felly bu i hyn ddiogelu ei budd-daliadau ac roedd yn gyfle iddi fanteisio ar y profiad gwaith roedd hi wir yn dymuno ei brofi.
Mae hi erbyn hyn yn gweithio mewn bar lleol dwy noson yr wythnos sydd wedi rhoi hwb i’w hyder.
“Heb gwasanaeth Cyfle Cymru a chydweithio gyda fy mentor, buaswn i’n dal mewn sefyllfa annymunol roeddwn ynddo am flynyddoedd maith,” meddai Jaime.
“Roedd bod yn rhan o’r gwasanaeth yn gyfle imi ennill yr hyder oedd wir ei angen arnaf i ddod o hyd i waith a theimlo’n fodlon fy myd.
“Roedd gwybod bod fy mentor ar gael i gynnig cefnogaeth barhaus ar ôl imi ddod o hyd i waith yn gysur aruthrol. Rydw i’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ac rydw i’n teimlo’n llawer hapusach a lot fwy iach.”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.