Yn 2016, cefais fy arestio am ymosod ar dri pherson wrth imi fod o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol. Roedd un o’r bobl hynny yn blismon. Roeddwn yn teimlo cywilydd.
Cefais fy hun ar brawf ac roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n bryd imi newid y sefyllfa – er mwyn fy mhlant os nad er fy mwyn i. Bu imi fynd ati i leihau fy nefnydd o gyffuriau ac alcohol ond roeddwn yn dal yn defnyddio canabis yn ddyddiol. Roeddwn i’n ei ystyried fel rhwyd a oedd yn fy ngwarchod i.
Ym mis Hydref, bu i fy swyddog prawf fy nghyflwyno i fentor cyfoedion o Cyfle Cymru. Y cynllun oedd fy helpu i gymryd cam ymlaen ac elwa o’n cyfarfodydd wythnosol. Roeddwn i’n anfodlon i gychwyn ond yna wnes i feddwl na fuasai’n gwneud niwed imi fynd am sgwrs gan y buaswn i yno beth bynnag!
Yn ystod yr wythnosau nesaf bu i fy mentor egluro’r sefyllfa imi a fy helpu i ddeall yr holl bethau fuasai o fudd imi fedru helpu fy hun a chymryd cam ymlaen. Un peth roedd gen i ddiddordeb ynddo oedd cwrs o’r enw Sgiliau Meddwl Greddfol. Fe wnes i gytuno i fynd i’r cwrs ac yn ystod y pedwar diwrnod, bu imi ganfod sut buasai modd imi reoli fy nibyniaeth ar ganabis.
Dydw i heb fwrw golwg yn ôl ar y gorffennol. Bu fy holl brofion cyffuriau yn negatif ac rydw i wedi manteisio ar 12 cwrs gwahanol. Rydw i’n teimlo’n gadarnhaol ac rydw i’n edrych ymlaen at weld beth fydda i’n ei brofi yn ystod y chwe mis nesaf.
Rydw i’n teimlo’n barod i ddod o hyd i waith a pheidio â gorfod dibynnu ar fudd-daliadau. Rydw i wedi mynd ati i geisio am swyddi. Yn ddelfrydol, buaswn i’n hoff o hyfforddi fel mentor i helpu pobl fuasai o bosib yn yr un sefyllfa ag oeddwn innau.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.