Dechreuodd Karen ei gyrfa gyda WCADA fel gwirfoddolwr yn 1995 ar ôl cwblhau gradd BA (Anrh) mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn fwy diweddar, mae hi wedi cwblhau ILM Diploma Lefel 5 a M.Sc mewn Seicoleg Fforensig.
Bu hi’n ymgynghorydd ar driniaeth 12 cam minnesota sy’n seiliedig ar ymatal am saith mlynedd. Roedd hi’n rhannu ei hamser rhwng WCADA a Gwasanaeth Prawf de Cymru lle cafodd ei throsglwyddo i fod yn weithiwr DAROP (Prosiect Cyfeirio i Dramgwyddwyr Cyffuriau ac Alcohol).
Yn 2002 daeth hi’n rheolwraig ar asiantaeth WCADA ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn 2005, dychwelodd i’r brif swyddfa yn Abertawe fel cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol lle’r oedd hi’n gyfrifol am gytundebau cymunedol a gwarchodol. Ym mis Medi 2008 cafodd ei phenodi gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr fel pennaeth gweithrediadau ac yn ddiweddar, ym mis Awst 2014, cafodd ei phenodi fel prif weithredwr WCADA. Mae hi’n frwdfrydig ac yn ymroi i faes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ac i wella bywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan gaethiwed a dibyniaeth.