Ar ôl dioddef o broblemau camddefnyddio sylweddau am sawl mlynedd, penderfynais fynd i ganolfan adfer ym Mangor.
Cefais gefnogaeth gyda’m hadferiad ac yna ymunais gyda’r prosiect Cyfle Cymru, lle’r ydw i wedi cwblhau’r holl gyrsiau datblygu personol sydd ar gael.
Rydw i rŵan yn teimlo y galla i roi rhywbeth yn ôl, felly, o dan arweiniad fy mentor cyfoedion, Rod, rydw i wedi dechrau gwirfoddoli mewn sesiynau galw heibio yn ogystal â chysgodi aelodau o staff. Alla i ddim coelio cymaint ydw i’n ei ddatblygu gyda’m hadferiad. Gyda’r gefnogaeth briodol rydw i’n teimlo fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth.
Gyda chefnogaeth Cyfle Cymru rydw i’n dysgu sgiliau newydd ac rydw i bellach yn barod i weithio’n llawn amser. Dymunaf i ddiolch i Rod a thîm Cyfle Cymru am fy helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yn fy mywyd.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.