Mae Ryan o Lanelli wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru ers dros 5 mis a diolch i’w fentor sef Wayne, mae wedi tyfu i’r person sydd i’w weld heddiw.
Trodd Ryan, 30 oed, at Cyfle Cymru am help er mwyn cael trefn ar ei fywyd.
“Ar ôl mynychu cyfarfod gyda Wayne, roeddwn i’n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr oedd ei angen arna i ac roeddwn eisiau bod yn rhan ohono”, meddai Ryan.
Ers hynny, mae wedi cwblhau cwrs cymorth cyntaf a hyfforddiant mentora cymheiriaid. Mae hefyd wedi bod yn mynychu grwpiau adfer SMART ac mae’n mwynhau gwirfoddoli.
Meddai Ryan: “Rydw i wedi dysgu cymaint amdanaf fi fy hun a sut y gallwn helpu eraill. Rydw i’n edrych i’r dyfodol i fod yn wirfoddolwr gyda Cyfle Cymru ac rydw i’n gobeithio dilyn y trywydd yma yn y dyfodol fel aelod cyflogedig o staff “.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.