Cafodd Shelley ei hatgyfeirio at Cyfle Cymru gan ei bod hi’n gobeithio magu hunan-barch ar ei thaith at waith.
Mae hi wedi mwynhau cwblhau ymarferion hyder – sydd wedi bod o gymorth iddi ddeall beth ydy ei chryfderau, a gweld pa feysydd y mae angen iddi weithio arnyn nhw.
Mae Shelley hefyd wedi cwblhau olwyn waith, sydd wedi gadael iddi osod nodau er mwyn gweithio tuag atyn nhw dros yr wythnosau nesaf. Mae hi’n bwriadu cymryd rhan mewn sesiynau glanhau traethau a mynd ar gyrsiau TG.
Mae Shelley yn cymryd rhan yn dda mewn sesiynau un-i-un ac yn teimlo’n gadarnhaol bob tro ynglŷn â mynd yn ôl i weithio.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.