Roeddwn i wedi bod yn y fyddin am ddwy flynedd pan gefais fy rhyddhau am resymau meddygol. Fe wnes i rai penderfyniadau ofnadwy a chael fy hun mewn lle tywyll iawn. O fewn 2 fis o adael y fyddin cefais fy hun yn ôl ac ymlaen o’r carchar am saith mlynedd.
Pum mis yn ôl roeddwn i’n ddigartref ac yn byw mewn pabell. Fe wnes i glywed am Newid Cam am y tro cyntaf pan es i i’r ganolfan byd gwaith a gweld taflen yno. Er fy mod i’n amheus, penderfynais fynd i’r sesiwn galw heibio ym Mae Colwyn.
Dyma le bu imi gyfarfod â ‘Vrinty’ wnaeth fy helpu i ddod o hyd i lefydd i fwyta a llety gwely a brecwast fel nad oedd rhaid imi gysgu ar y traeth. Fe helpodd Vrinty hefyd i’m cyfeirio at y Lleng Brydeinig Frenhinol wnaeth fy helpu i gael grant llety ar gyfer y fflat rydw i’n byw ynddi heddiw.
Ar ôl ychydig fisoedd dechreuais i wirfoddoli gydag ARCH a Newid Cam, drwy helpu i goginio prydau i’r digartref a helpu i dacluso beddi cyn-filwyr a chofebau rhyfel. Mae Ronnie wedi bod o gymorth aruthrol drwy roi cefnogaeth un-i-un imi ac mae wedi fy helpu i ddod o hyd i gyrsiau hyfforddi. Rydw i ar fin dechrau rhaglen 12 wythnos o’r enw ‘Crew-it’ lle byddaf yn ennill sgiliau a chymwysterau mewn arlwyo a lletygarwch ac rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau fy nghymhwyster BTEC mewn Mentora Cyfoedion. Yn y dyfodol, mi fuaswn i’n hoffi bod yn berchen ar gaffi fy hun i gyn-filwyr.
I gyn-filwyr eraill sy’n cael eu hunain mewn sefyllfa debyg, buaswn i’n eu hannog i siarad gyda Newid Cam sydd wedi fy helpu i gyrraedd lle’r ydw i heddiw.