Mae fy mywyd wedi newid cymaint er gwell ers imi ymuno â’r rhaglen Newid Cam ym mis Ebrill 2013. Cefais fy nghroesawu yno’n syth ac roedd digon o gymorth a chefnogaeth ar gael i mi a’m teulu. Mae Newid Cam wedi rhoi rhywbeth newydd imi ganolbwyntio arno. Mae wedi rhoi trefn ar fy mywyd trwy fy helpu i ennill cymwysterau newydd, rydw i ar hyn o bryd yn astudio tuag at gymhwyster BTEC. Rydw i hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli ymarferol yn yr awyr agored gyda chyn-aelodau eraill y lluoedd arfog.
Mae’r cyd-dynnu fel tîm, y cwmni a’r cyfeillgarwch y mae hyn yn ei feithrin wedi bod yn werthfawr iawn wrth fy helpu i ail-fagu fy hyder fy hun yn ogystal â hyder y rhai sydd o’m cwmpas. Mae hefyd yn gwneud imi deimlo’n wych fy mod i’n gallu cyfrannu a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae mentoriaid cyfoedion Newid Cam wedi bod yno bob cam o’r ffordd yn fy nghefnogi a’m hannog i bob tro – Harry