I Jason Samuels, nid yn unig y mae rhaglen Newid Cam wedi rhoi iddo ei fywyd yn ôl, ond mae hefyd wedi rhoi bywyd ei deulu yn ôl. O’r blaen, roedd rhaglen Newid Cam ar gael yng ngogledd Cymru yn unig, ond mae bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ac fe gaiff ei lansio mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher y 1af o Hydref.
Bu i Jason, sy’n 43 mlwydd oed o Wrecsam, wasanaethu gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin a bu’n ymladd yn y Rhyfel Gwlff cyntaf. Oherwydd hyn, bu’n dioddef o PTSD.
Bu’n cael trafferth dod o hyd i gymorth am flynyddoedd a byddai’n arfer ceisio gwella ei hun gydag alcohol a chyffuriau. Ar ei gyffes ei hun, doedd dim llawer o drefn ar ei fywyd a byddai’n mynd o swydd i swydd yn poeni dim am unrhyw beth.
Cafodd drawiad ar y galon ym Mehefin 2013 a dyna pryd y dywedodd wrth y staff ei fod yn dioddef o PTSD. Cafodd ei gyflwyno at Newid Cam trwy GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae o’n hapus ei fyd ers hynny.
Dywedodd Jason, “Mae Newid Cam yn wasanaeth mentora cyfoedion i gyn-filwyr sydd eisiau newid eu bywydau. Mae’r mentoriaid i gyd yn gyn-filwyr ac i mi dyna pam y mae Newid Cam yn gweithio cystal.
“Dydych chi ddim yn siarad gyda rhywun sydd wedi bod ar gwrs er mwyn dysgu am y pethau hyn. Rydych chi’n siarad wyneb yn wyneb gyda rhywun, fel chi, sy’n gwybod yn union sut ydych chi’n teimlo ac sydd wedi profi’r un pethau. Y broblem gyda dynion fel fy hun ydy, gan amlaf, allwch chi ddim dweud bod unrhyw beth o’i le wrth edrych ar y person yn gorfforol.
“Os oedd gen i unrhyw broblem, roeddwn i’n gallu codi’r ffôn a siarad gyda fy mentor, Dave Nolan. Ar ôl ambell i fis roeddwn i’n teimlo dipyn gwell a chyn pen dim fe wnes i droi o fod yn gleient i fod yn fentor cyfoedion fy hun yn Wrecsam. Erbyn heddiw mae gen i dros 20 o gleientiaid fy hun. Rydw i hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio yn Wrecsam bob dydd Iau ac yn trefnu diwrnodau gwirfoddoli fel tacluso beddi cyn-filwyr fel rhan o’r prosiect Cofio Ein Harwyr.
“Mae’r gwaith gwirfoddoli yn therapiwtig ac mae gweithio mewn tîm yn dda iawn i ysbryd pobl. Rydw i wedi gweld newidiadau mawr yn y cyn-filwyr sy’n ymuno â Newid Cam, hyd yn oed ar ôl dim ond ychydig wythnosau, ac mae’r diwrnodau gwirfoddoli hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n falch ac yn codi eu hunan-barch. I rai ohonyn nhw, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gymdeithasu gyda phobl eraill ers amser hir iawn.
“Rydw i’n poeni llai am fynd allan rŵan. Roeddwn i’n arfer poeni gymaint am fynd allan neu am gyfarfod pobl newydd roeddwn i’n chwydu o’i herwydd. Ond dydy hynny ddim yn digwydd dim mwy. Rydw i wedi gallu newid fy agwedd tuag at dorfeydd ac archfarchnadoedd gan fy mod i rŵan wedi gallu cwestiynu pam oeddwn i’n teimlo fel yr oeddwn i.
“Rydw i’n llawer iawn mwy cymdeithasol gyda’m teulu. Mewn gwirionedd, roeddwn i wedi eu hanwybyddu am 16 mlynedd drwy fyw yn fy nghragen fy hun. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi dod i adnabod fy nheulu unwaith eto.
“Deuddeg mis yn ôl doedd gen i ddim cariad at fywyd, ond flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl gwirfoddoli gyda Newid Cam, mae’r newid ynof i yn rhyfeddol. I mi, mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn anhygoel a dydw i ddim yn gwybod beth fuaswn i’n ei wneud hebddyn nhw.”