Bûm yn dioddef o fod yn gaeth i alcohol ers diwedd fy arddegau ac fe arweiniodd hyn at broblemau iechyd meddwl yn y pendraw yn ogystal â phroblemau hunan-niweidio.
Wedi imi geisio rhoi’r gorau i alcohol a methu sawl gwaith, fe wnes i lwyddo i roi’r gorau i alcohol yn gyfan gwbl. Fe wnes i ddod i CAIS oddeutu blwyddyn yn ôl ac fe gefais gyfle i wirfoddoli.
Bu inni fynd i’r fferm a helpu gyda’r gwaith chwynnu, tyfu a phlannu llysiau a hefyd adeiladu popty pizza. Erbyn hyn rydw i’n oruchwyliwr gwirfoddol yn cynnal a chadw’r gerddi ym Mryn y Wal. Rydw i hefyd yn cynnal grŵp garddio yno pob ddydd Iau.
Bu i’r prosiect Cyfle Cymru fy helpu i fanteisio ar yr adnoddau imi fedru cymryd cam ymlaen ynghyd â rhoi hwb i fy hyder. Erbyn hyn rydw i’n codi yn y bore gan edrych ymlaen at y diwrnod. Rydw i’n mynychu cyrsiau ac yn gwirfoddoli erbyn hyn gyda chefnogaeth ac arweiniad y mentoriaid cyfoedion yn Sir Ddinbych.
Rydw i’n fentor i wirfoddolwyr ac rydw i’n gobeithio y medra i rannu yr hyn rydw i wedi ei ddysgu i helpu eraill sy’n manteisio ar y prosiect.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.