MAE GWIRFODDOLWYR O raglen adferiad a chyflogadwyedd Cymru gyfan yn cael mewnwelediad ffres i Fywyd Cyfrinachol Sŵ Caer fel rhan o brosiect newydd ar y cyd gyda’r prif atyniad.
Mae Keilie Wycherley yn un o grŵp sydd yn rhoi o’u hamser i helpu miloedd o ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad, gwella ymdrechion cadwraeth y sŵ, a datblygu eu sgiliau eu hunain.
Mae hi’n cymryd rhan ym mhrosiect Cyfle Cymru, sy’n helpu pobl sydd â phrofiad o faterion salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau i gymryd camau tuag at gyflogaeth.
Rhaglen hyfforddiant
Mae’r grŵp hwn yn rhan o’r llif enfawr o wirfoddolwyr sydd wedi cael eu denu eleni i Sŵ Caer, sy’n atyniad prysur iawn ac yn rhywle y mae’r anifeiliaid a’r ceidwaid wedi serennu ar y sgrîn deledu ar ôl cymryd rhan yn y gyfres ddogfen tu ôl i’r llenni ‘Secret Life of Chester Zoo’ ar Channel 4 yn ddiweddar.
Mae cyfranogwyr Cyfle Cymru wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant wirfoddoli drylwyr, ac yn awr yn helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am y 500 o rywogaethau a 15,000 o anifeiliaid ar y safle.
Cafodd Keilie, oedd yn defnyddio cyffuriau am fwy nag 20 mlynedd, ei chyflwyno i’r cyfle gan ei mentor cyfoedion George James.
“Dwi wrth fy modd – mae’n dda iawn ac yn gyfle gwych,” meddai. “Roedd gen i ddiddordeb o’r eiliad cyntaf y soniodd George am y peth wrtha i.
“Mae’n braf gwneud rhywbeth sy’n hollol wahanol – rhywbeth nad yw am fy adferiad – ac mae’n rhywbeth sy’n eithaf therapiwtig.
“Mae’n wych i fynd i lawr yno a helpu, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau yr wythnos mae rhywun yn gwirfoddoli.
“Ar fy shifft olaf, roedden i yn ardal yr Ynysoedd ac yn agos iawn at rai o’r teigrod. Roeddwn i’n gallu dweud ychydig bach am yr anifeiliaid wrth yr ymwelwyr ac yn gallu defnyddio rhai o’r cymhorthion er mwyn helpu’r plant i fod yn rhan o’r cyfan.
“Mae pob un o’r ymwelwyr wedi dod i’r sŵ am ddiwrnod allan gwych felly mae’n le hapus iawn i fod – ac mae’r anifeiliaid yn hyfryd!”
Hyder
Mae Cyfle Cymru yn cynnig mentora cyfoedion effeithiol, hyfforddiant a sgiliau bywyd i adeiladu hyder.
“Mae wedi bod yn wych ar gyfer dysgu sgiliau pobl eto,” meddai Keilie sy’n 41 mlwydd oed, o Frychdyn Newydd. “Pan fyddwch chi yn gaeth i gyffuriau, rydych chi’n ynysu eich hun – dydych chi ddim eisiau rhyngweithio â phobl.
“Felly, mae’n rhaid i chi ddysgu’r sgiliau pobl hynny eto, fel cael sgwrs neu edrych i lygaid pobl.
“Mae gwirfoddoli yn y sŵ wedi bod yn gyfle gwych. Os oes unrhyw un yn edrych i mewn i wirfoddoli, yna byddwn i wir yn ei argymell.”
Dywedodd George bod y gwirfoddolwyr wedi cael amser gwych yn ystod eu hyfforddiant, a dymunodd pob lwc i bob un o’r cyfranogwyr gyda’r “cyfle gwych” yma.
“Rydw i mor falch ohonynt a’r ymrwymiad a ddangoswyd ganddynt,” meddai.
Mwy o wabodaeth
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gefnogi gan gronfeydd yr UE, ac mae’n cael ei gyflwyno gan bartneriaeth DACW ar draws Gogledd Cymru, Powys, Dyfed, Y Bae Gorllewinol ac ardaloedd Gwent.
Mae’r rhaglen eisoes wedi helpu dros 1,700 o bobl yng Nghymru ac yn darparu dros 17,000 o oriau o gefnogaeth yn y gymuned.
Mae mwy o wybodaeth am Cyfle Cymru ar gael yma, trwy e-bostio ask@cyflecymru.com, neu ffonio 0300 777 2256.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.