Roedd Tammy o Ynys Môn yn cael trafferth gydag iselder ysbryd a phryder ac wedi dod yn bell ers iddi ymuno â Cyfle Cymru.
Ers gweithio gyda’i mentor cyfoedion mae Tammy, 23, wedi cael cymorth wrth chwilio am waith, mynychu cyrsiau hyfforddi a gwirfoddoli er mwyn helpu i lenwi ei hamser.
Mae hi’n arbennig o hoff o’r dyddiau gwirfoddoli a grwpiau cerdded gan ei fod yn ffordd o gwrdd â phobl newydd, mynd allan, a rhyngweithio ag eraill sydd mewn sefyllfa tebyg iddi hi.
Dywedodd Tammy: “Dwi’n ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn teimlo fy mod wedi dod yn bell yn ystod y misoedd diwethaf”.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.