Rydw i’n ddiolchgar i Cyfle Cymru am y cyfle mae wedi’i roi imi.
Ar ôl dioddef am 30 mlynedd o broblemau iechyd meddwl – sydd wedi arwain at gaethiwed a diffyg hunan-barch – rydw i o’r diwedd wedi dechrau gwella. Cefais gyfle i wirfoddoli, magu sgiliau newydd, magu hyder ac ailddarganfod fy hunan-barch.
Ar ôl blwyddyn o wirfoddoli, hyfforddi a mynd ar gyrsiau, a chyda chefnogaeth mentor cyfoedion oedd wedi bod mewn sefyllfa debyg, fe wnes i fagu hyder i ymgeisio am swydd broffesiynol am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Rydw i’n cofio bod yn nerfus iawn, ond diolch i’r drefn – oherwydd y sgiliau newydd roeddwn i wedi’u dysgu a’r hunan-gred newydd oedd gen i – bu imi lwyddo yn fy nghyfweliad.
Mae gen i gyfle rŵan i drosglwyddo’r un cyfleoedd, sgiliau a chefnogaeth gefais i fel Mentor Cyfoedion gyda Chyfle Cymru.
Rydw i’n gwybod cymaint o wahaniaeth y mae Cyfle Cymru wedi ei wneud i’m bywyd yn barod, ac i fywyd fy nheulu oll a phawb sydd o’m cwmpas.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.