Bu i Christine ymddeol yn gynnar ar ôl gweithio am 15 mlynedd yn y diwydiant gofal – ond mae hi ar fin dechrau gwirfoddoli gan ei bod hi eisiau rhoi sglein ar ei sgiliau a dechrau gweithio unwaith eto.
Ar ôl ychydig amser i ffwrdd yn helpu gyda’i hwyrion a’i hwyresau, mae Christine yn gweld rŵan fod ganddi fwy o amser rhydd a’i bod hi’n colli’r prysurdeb oedd ynghlwm â’i gyrfa flaenorol – ac mae hyn yn amharu ar ei hiechyd meddwl.
Mae hi wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru yng Ngwent, ac mae hi eisiau magu hyder unwaith eto a magu profiad gwerthfawr i’w ychwanegu at ei CV.
Bydd Christine yn dechrau gwirfoddoli yn fuan yng nghartref preswyl Cefn Glas, gyda diolch i gymorth gan Rebecca Evans o Volunteer Matters (yn y llun ar y chwith). Mae hi’n edrych ymlaen at gymryd y cam nesaf hwn ac yn meddwl y bydd yn rhoi’r brwdfrydedd a’r canolbwynt hanfodol sydd arni ei angen er mwyn parhau i wella.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.