Ymunodd Clive Wolfendale gyda CAIS fel prif weithredwr ym mis Medi 2009. Cyn hynny, roedd yn ddirprwy brif gwnstabl i Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl cael ei drosglwyddo o Heddlu Manceinion Fwyaf lle bu’n gwasanaethau am chwe blynedd ar hugain. Trwy gydol ei yrfa gyda’r Heddlu, bu’n gweithio ar ddatblygu dulliau newydd o gysylltu gyda’r gymuned, ac o ymdrin ag amrywiaeth a safonau proffesiynol.
Mae Clive yn ysgrifennydd i gwmni DACW, mae’n aelod o Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yr Adran Addysg a Sgiliau i Lywodraeth Cymru.
Mae’n gadeirydd ar CAIS Social Enterprises Limited, ac mae hefyd yn gadeirydd ar ‘Stafell Fyw Caerdydd.
Mae Clive yn ymddiriedolwyr ac yn drysorydd i Nant Gwrtheyrn, Canolfan Iaith Gymraeg a Diwydiant Cymreig, arweinydd Band Tref Llandudno, ac yn is-lywydd ar bwyllgor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae Clive wedi graddio o Ysgol Fusnes Manceinion ac o Brifysgol Caergrawnt ac mae erbyn hyn wedi hen sefydlu ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae o’n aelod o Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu ac o Gymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol.