BU I CYFLE CYMRU ddathlu Wythnos Addysg Oedolion drwy glodfori llwyddiannau gwirfoddolwyr a mentoriaid cyfoedion.
Cafodd tystysgrifau eu cyflwyno i aelodau tîm Gogledd Cymru mewn diwrnod hyfforddiant ym Modelwyddan gan glodfori eu cynnydd drwy Academi Mentora Cyfoedion Cyfle Cymru.
Mae’r cynllun academi – gyda’r diben o gydnabod datblygiad proffesiynol sgiliau mentora cyfoedion – yn gwobrwyo ymroddiad i allestyn, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant. Mae croeso i wirfoddolwyr a staff cyflogedig fanteisio ar y cynllun.
Datblygiad proffesiynol
Bu i’r grŵp hefyd fuddsoddi mewn sgiliau eraill, fel gloywi eu Cymraeg a phobi eu teisennau cri eu hunain!
Dywedodd rheolwr prosiect Cyfle Cymru dros Ogledd Cymru, Naomii Oakley y bu’r diwrnod yn llwyddiant ysgubol.
Dywedodd “Bu’n wych medru dod â’r tîm ynghyd i rannu ymarfer da, dod i adnabod ei gilydd yn well, dysgu pethau newydd a dathlu llwyddiannau ein cydweithwyr”.
Lwybr Gwirfoddoli
Yn Abertawe, cafodd unigolion o ardal y Bae Gorllewinol eu gwobrwyo am gwblhau hyfforddiant craidd ar Lwybr Gwirfoddoli Cyfle Cymru.
Bu i saith gwirfoddolwr dderbyn tystysgrifau gan ddirprwy gyfarwyddwr Canolfan Gymraeg Am Weithredu ar Ddibyniaeth (WCADA) Becky Hancock, yn sgil llwyddiant gyda hyfforddiant ynghylch cyfrinachedd, cydraddoldeb ac amrywioldeb a hyfforddiant ffiniau a moeseg.
Dywedodd mentor arweiniol Bae’r Gorllewin, Claire Gore y bu’n brynhawn braf – gyda phaned, cacen a chwis.
Ychwanegodd “Hoffem estyn ‘croeso’ mawr a ‘diolch yn fawr’ i wirfoddolwyr sydd yn rhan o’r prosiect”.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.