Mae Emma yn wraig tŷ ac yn fam i dri o blant. Bu iddi fagu ei phlant ar ei phen ei hun fel mam sengl am y 12 mlynedd diwethaf.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu iddi weithio mewn swyddi dros dro – ond hefyd bu iddi ddioddef o iselder. Fodd bynnag, ni fu i hyn ei hatal rhag cynnal y tŷ a threfnu gweithgareddau dyddiol ei phlant.
Daeth i Cyfle Cymru i fanteisio ar help i ddod o hyd i waith a rhoi hwb i’w hyder. Bu i Emma wneud gwelliannau i’w CV a bu i’w hyder ddatblygu’n raddol drwy gydol y broses. Bu iddi gyflawni sawl ymarfer sgiliau heb eu hachredu, ynghyd â hyfforddiant barista a chyrsiau gofal cwsmer.
Mae Emma yn gwirfoddoli yng Nghaffi Tyfu yng Nghaerffili ers ‘diwrnod blasu’ ym mis Tachwedd. Mae hi’n mwynhau pob munud ac yn edrych ymlaen at ennill cymwysterau hylendid bwyd, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a chodi a chario.
Dywedodd Emma fod ei hyder wedi gwella ac mae hi’n awr yn edrych ymlaen at y dyfodol a dod o hyd i waith â thâl.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.