Cwblhaodd Helen ei chyfnod dadwenwyno ac mae hi wedi tyfu o fod yn berson ofnadwy o nerfus i fod yn fenyw rhagweithiol a hyderus sy’n edrych ymlaen at ei dyfodol.
Roedd Helen, 49, yn ei chael hi’n anodd ymdopi mewn amgylcheddau cymdeithasol a chyfeiriwyd hi at Cyfle Cymru am gefnogaeth arbenigol.
Bu’n gweithio gyda mentor Cyfle Cymru yng Nghaerffili a bu’n cymryd rhan mewn boreau coffi, diwrnodau agored, gweithdai sgiliau cyflogadwyedd, ac mae wedi cwblhau ei chwrs Hyfforddi Mentor Cyfoedion o ganlyniad i’r gefnogaeth hon.
Mae ei hyder newydd yn ei galluogi i fynychu’r gampfa, rhyngweithio â grwpiau o bobl, ac mae Helen bellach yn edrych ymlaen at wirfoddoli gyda’r rhaglen Gwasanaeth Allan o Waith a’r gwasanaeth cyfeillio yn Ysbyty Ystrad Mynach yn y dyfodol.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.