Roedd Paul, 37, yn aflwyddiannus mewn cyfweliad i fod yn fentor cyfoedion, ond yn ddiweddarach mynychodd gwrs Mentora Cyfoedion achrededig trwy Cyfle Cymru. Roedd hyn yn ei alluogi i arddangos ei sgiliau ac ennill cymhwyster sy’n gallu trawsnewid bywydau.
Ar ôl gweithio ochr yn ochr â Cyfle Cymru i wella ei dechneg cyfweld, mae Paul wedi’i benodi’n fentor cyfoedion yn Sir Gaerfyrddin.
“Rydw i wrth fy modd gyda’r apwyntiad newydd hwn, dyma ddechrau ar amseroedd cyffrous i ddod!” meddai Paul.
“Mae Paul wedi bod yn enghraifft wych o sut i ganolbwyntio ar nod hirdymor a defnyddio’r cyfleoedd a gynigir gan Cyfle Cymru i gyrraedd yno,” meddai mentor.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.