Rhoddodd Philomena o Port Talbot y gorau i yfed a thrawsnewid ei bywyd gyda chymorth Cyfle Cymru.
Mae Philomena, 49, wrth ei bodd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd ar gael trwy CAIS a WCADA, ac mae wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd sy’n dilyn taith debyg.
Dywedodd gyda’r gefnogaeth o ansawdd uchel sydd ar gael trwy Cyfle Cymru ei bod wedi ffynnu wrth gwblhau cymwysterau niferus, gan gynnwys cwrs Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf.
“Roeddwn i’n arfer ymdopi gydag alcohol ond erbyn hyn mae gen i bethau gwell i droi atyn nhw,” meddai Philomena. “Gallaf edrych i’r dyfodol yn lle yfed drwy’r dydd.”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.