Doeddwn i byth yn meddwl y buaswn i’n mynd ati i ysgrifennu rhywbeth fel ‘ma – ond bu’n daith cynnydd a chyflawni arbennig imi a rhywbeth llawer iawn gwell nag oeddwn i erioed wedi dychmygu yn digwydd imi.
Diolch i gefnogaeth Cyfle Cymru, bu imi fedru mynychu grwpiau a gweithgareddau yn ymwneud â chodi hyder, sgiliau bywyd, gwytnwch, sgiliau cyfrifiadureg gyda Learn Direct, hyfforddiant cymorth cyntaf, y grŵp ceisio am swyddi, gwirfoddoli a choginio.
Dw i’n meddwl mai’r llwyddiant mwyaf imi oedd ceisio i fod yn wirfoddolwr ar ran Drugaid. Gyda chefnogaeth fy mentor cyfoedion, Emma, bu imi fynd ati i lunio’r cais gorau posib ac rydw i’n falch ohono. Yn dilyn anfon y cais fe ges i gynnig cyfweliad, a oedd yn llwyddiannus, ac rydw i erbyn hyn yn disgwyl am yr hyfforddiant cyflwyno. Gyda’r holl help, bu’n gyfle imi osod nodau, eu cyflawni a mynd ati i godi fy hyder yn barhaus. Rydw i wir yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth barhaol.
Rydw i’n edrych ymlaen gymaint i ddal ati i Iwyddo, parhau i deimlo’n frwdfrydig a mynychu cymaint o grwpiau a gweithgareddau â phosib. Fy nod yn y pendraw ydy gweithio fel gweithiwr cefnogol gyda chamddefnyddio sylweddau ac rydw i’n fwy na pharod i weithio ac astudio hyd fy ngallu i ofalu fy mod yn llwyddo efo hyn.
Roedd pawb yn gyfeillgar a chefnogol dros ben – diolch yn fawr!
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.