Roeddwn i eisiau bod yn filwr ers pan oeddwn i’n ifanc, roedd yr holl ddynion oeddwn i’n eu hedmygu, gan gynnwys fy nhad, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Prydeinig. Ar ôl imi droi’n un ar bymtheg, fe wnes i gofrestru gyda’r Lluoedd Arfog. Bues i’n gwasanaethu ac yn ymladd yn Cyprus, Belize, Cenia a Gogledd Iwerddon. Cafodd hyn effaith niweidiol ar fy iechyd a’m llesiant meddyliol.
Gadewais i’r Lluoedd Arfog ym mis Awst 1993 a chanfod fy mod i’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn 1997. Bryd hynny doedd dim cefnogaeth ar gael imi. Roeddwn i’n ddyn ifanc blin ac mewn penbleth. Roeddwn i wedi fy hyfforddi i fod yn filwr ac i ddefnyddio trais yn erbyn trais a datrys unrhyw wrthdaro gyda thrais. Chefais i ddim cefnogaeth na hyfforddiant ar sut i fod yn ddinesydd unwaith eto. Fe wnaeth hyn, ynghyd â’r PTSD, arwain at gofnod troseddol hir ac at wneud nifer sylweddol o benderfyniadau anghywir.
Ar ôl dioddef o PTSD am ryw 20 mlynedd, sylwais o’r diwedd nad oeddwn i’n gallu parhau i fyw fel yr oeddwn i. Felly, gyda hyn mewn golwg, penderfynais roi tro ar fyd a gwneud rhai newidiadau cadarnhaol yn fy mywyd.
Rydw i’n teimlo bod fy mhrofiadau yn gallu helpu pobl eraill, yn gallu rhoi’r arfau iddyn nhw helpu eu hunain. Rydw i’n meddwl bod cyn-filwyr yn haeddu rhwydwaith o gefnogaeth wrth iddyn nhw adael y Lluoedd Arfog. Wedi’r cyfan, maen nhw wedi gwasanaethu dros eu gwlad ac felly rydw i’n teimlo eu bod nhw wedi haeddu hyn – ac mae hyn yn rhywbeth rydw i’n teimlo’n frwdfrydig iawn drosto. Gyda Newid Cam, rydw i’n teimlo ei bod hi’n fraint ac yn anrhydedd bod yn rhan o brosiect mor gadarnhaol.