BYDD ACADEMI Mentora Cymheiriaid llwyddiannus Cyfle Cymru yn cael gwobr arbennig gan y Dywysoges Anne. Mae'r Academi yn un o ddim ond 48 o fentrau hyfforddi i dderbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol - sy'n cydnabod dysgu rhagorol yn y gweithle ledled y DU eleni. Mae'r cynllun yn cynnig cymysgedd ymarferol o hyfforddiant yn y gwaith a chymwysterau ffurfiol, ac mae ar gael i bob mentor sy'n gweithio ar [.....]
Articles by: DACW
Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
Bydd dwsinau o wirfoddolwyr o'r prosiect mentora a chyflogadwyedd mwyaf yng Nghymru yn clirio deunydd plastig oddi ar draethau a dyfrffyrdd ar hyd a lled y wlad y mis Mehefin. Bydd yr ymgyrch genedlaethol i waredu deunydd llygrol a sbwriel o rai o'n safleoedd o harddwch mwyaf arbennig yn ran o ddathliadau ein Wythnos Gwirfoddolwyr blynyddol. Mae pawb sy'n cymryd rhan yn gwella o gamddefnyddio sylweddau a [.....]
Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW
Martin ydy prif weithredwr Kaleidoscope sy'n cefnogi pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, yn ogystal â Kingston. Mae Kaleidoscope yn cynnig gwasanaethau preswyl, cefnogaeth feddygol a sesiynau cefnogaeth seico-gymdeithasol. Martin ydy cadeirydd y grŵp Cymraeg Sgiliau er Cyfiawnder ac mae ganddo brofiad o gefnogi pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol. Mae o hefyd yn aelod o Fwrdd Sgiliau er [.....]
Clive Wolfendale – Prif Weithredwr, CAIS, ac Ysgrifennydd DACW
Ymunodd Clive Wolfendale gyda CAIS fel prif weithredwr ym mis Medi 2009. Cyn hynny, roedd yn ddirprwy brif gwnstabl i Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl cael ei drosglwyddo o Heddlu Manceinion Fwyaf lle bu'n gwasanaethau am chwe blynedd ar hugain. Trwy gydol ei yrfa gyda'r Heddlu, bu'n gweithio ar ddatblygu dulliau newydd o gysylltu gyda'r gymuned, ac o ymdrin ag amrywiaeth a safonau proffesiynol. Mae Clive yn ysgrifennydd [.....]
Bernie Bowen-Thomson – Prif Weithredwr, Cymru Ddiogelach
Mae gan Bernie radd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (MSc) a dros 13 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol. Ei nod yw darparu gwasanaethau sy’n rhywedd-wybodus er mwyn gwella bywydau menywod sy’n cael eu stigmateiddio gan weddill cymdeithas neu sy’n anweladwy i weddill cymdeithas. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys gweithwyr rhyw, puteiniaid, defnyddwyr [.....]
Karen Ozzati – Prif Weithredwr, WCADA
Dechreuodd Karen ei gyrfa gyda WCADA fel gwirfoddolwr yn 1995 ar ôl cwblhau gradd BA (Anrh) mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn fwy diweddar, mae hi wedi cwblhau ILM Diploma Lefel 5 a M.Sc mewn Seicoleg Fforensig. Bu hi'n ymgynghorydd ar driniaeth 12 cam minnesota sy'n seiliedig ar ymatal am saith mlynedd. Roedd hi'n rhannu ei hamser rhwng WCADA a Gwasanaeth Prawf de Cymru lle cafodd ei throsglwyddo i fod yn [.....]
Caroline Phipps – Prif Weithredwr, Barod
Caroline Phipps ydy prif weithredwr Barod. Mae Barod yn fudiad trydydd sector sy'n cynnig llawer o wasanaethau gwahanol i bobl a theuluoedd sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ar draws de Cymru. Mae hi wedi gweithio yn y maes hwn ers 18 mlynedd a chyda Barod ers 15 mlynedd. Mae hi'n aelod o Fyrddau Cynllunio Ardaloedd Gwent a Chwm Taf ac yn cadeirio'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau. Mae hi'n [.....]
Alun Thomas – Prif Weithredwr, Hafal
Alun ydy prif weithredwr Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd. Mae Hafal yn fudiad sydd wedi'i arwain gan ei aelodau ac yn cefnogi dros 1,300 o bobl ar draws Cymru bob dydd. Mae Alun yn nyrs gofrestredig ac mae wedi gweithio i'r GIG, llunio gwasanaeth adfer niwrolegol yn y sector gofal iechyd preifat, ac erbyn hyn, gyda Hafal, mae'n gweithio ar ddatblygu [.....]
Rachael: “wedi tyfu fel person yn dilyn yr holl gefnogaeth”
Ymunodd Rachael â Cyfle Cymru ym mis Tachwedd y llynedd a dechreuodd weithio gyda'i mentor cyfoed, Lisa, i adeiladu ar ei hyder. Ar y dechrau, roedd Rachael yn teimlo'n nerfus iawn ac yn ei chael yn anodd ymuno â gweithgareddau Cyfle Cymru a gynhaliwyd yn Byddin yr Iachawdwriaeth yn Y Rhyl. Wrth i'r wythnosau fynd heibio, fe wnaeth hyder Rachael dyfu ac yn y diwedd roedd yn gallu ymuno â gweithgareddau'r grŵp a [.....]
Mari: “Nawr rwy’n gallu chwilio am waith yn y dyfodol”
Pan oedd Mari o Gaernarfon yn ddigartref yn 2018 a trodd at Cyfle Cymru am help i ddod o hyd i waith. Ers hynny, mae wedi bod yn mynychu'r cyrsiau hyfforddi arbenigol y mae Cyfle Cymru yn rhedeg ym Mangor ddwy waith yr wythnos ac mae wedi mwynhau bob un cwrs yn llwyr. Mae'r cyrsiau wedi bod yn hwb mawr i'w hyder ac mae ganddi bellach gymwysterau newydd i'w ychwanegu at ei C.V. Meddai Mari: "Bydd yn help mawr [.....]
- 1
- 2
- 3
- …
- 9
- Tudalen Nesaf »